Neges yr Efengyl
– Darllenwch y canlynol os gwelwch yn dda:
Gen. 1:1 | Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. |
Rhuf. 3:23 | oherwydd y maent oll wedi pechu ac yn amddifad o ogoniant Duw. |
Ioan 8:34 | Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych fod pob un sy’n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod. |
Duw wnaeth ein creu ni, ond dydyn ni ddim yn Ei adnabod, ac rydym ar wahân iddo oherwydd ein natur bechadurus ni. Does dim ystyr na phwrpas i’n bywydau ni heb Dduw. Canlyniad ein pechod (y pris i’w dalu) yw marwolaeth, yn ysbrydol a chorfforol. Mae marwolaeth ysbrydol yn golygu bod ar wahân oddi wrth Dduw. Marwolaeth gorfforol yw bod y corff yn pydru. Os byddwn yn marw yn ein pechod byddwn wedi’n gwahanu oddi wrth Dduw am byth ac yn mynd i uffern. Sut allwn ni achub ein hunain oddi wrth ein pechodau a dychwelyd at Dduw? Allwn ni ddim achub ein hunain gan nad yw’n bosibl i berson pechadurus achub ei hun (yn union fel na all person sy’n boddi achub ei hun). Ni all eraill ein hachub chwaith, gan ein bod i gyd yn bechaduriaid (ni all un person sy’n boddi achub un arall, mae angen help ar y ddau). Mae angen un sydd heb bechod arnom (ddim yn boddi) i’n hachub oddi wrth ein pechodau. Dim ond person sydd heb bechod a all ein hachub. Sut mae modd dod o hyd i berson dibechod mewn byd pechadurus lle y mae pawb wedi pechu?
Rhuf. 6:23 | Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. |
Ioan 3:16 | Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol |
Mathew 1:23 | “Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel,” hynny yw, o’i gyfieithu “Y mae Duw gyda ni”. |
Ioan 8:23 | Meddai Iesu wrthynt, “Yr ydych chwi oddi isod; yr wyf fi oddi uchod. Yr ydych chwi o’r byd hwn; nid wyf fi o’r byd hwn. |
Marc 1:11 | A daeth llais o’r nefoedd, “Ti yw Fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.” |
Ioan 8:36 | Felly os yw’r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.” |
Ioan 3:3 | Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Duw.” |
Ioan 1:12 | Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw. |
Mae Duw, sydd wedi ein creu ni ac sy’n ein caru’n fawr, wedi rhoi’r ateb i ni. O’i gariad enfawr tuag atom, anfonodd Ei fab Ei hun, Iesu, i farw dros ein pechodau. Mae Iesu yn ddibechod am nad yw Ef o’r byd hwn, a phan oedd ar y ddaear, gorchfygodd demtiad y diafol i bechu. Cafodd Duw yn y nef ei fodloni gan ei fywyd. Cymerodd Iesu ein pechodau a marw ar y groes dros ein pechodau. Ef yw gwaredwr ein bywydau (gall Iesu ein hachub am nad oedd Ef yn boddi). Pwrpas marwolaeth Iesu ar y groes oedd talu’r pris am ein pechodau ni, a thrwy hynny, gael gwared â’n pechodau ac adfer ein perthynas doredig â Duw. Deuwn yn fyw o farwolaeth ysbrydol (ein gwahanu oddi wrth Dduw) drwy rym Duw. Gelwir y berthynas newydd hon yn ‘ailenedigaeth’ . Mae’n ein hadfer i bwrpas ein creu a’n bodolaeth, ac yn rhoi gwir ystyr a phwrpas i fywyd.
Ioan 11:25 | Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof i, er iddo farw, fe fydd byw. |
Rhuf. 6:9 | A ninnau yn gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef. |
Actau 2:24 | Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. |
Rhuf. 14:9 | Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a’r byw. |
Actau 1:11 | ac meddai’r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i’r nef yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef.” |
Beth yw’r dystiolaeth bod aberth Iesu yn marw dros ein pechodau wedi cael ei derbyn gan Dduw yn y nef? Y dystiolaeth yw atgyfodiad Iesu o farwolaeth gan Dduw. Drwy’r atgyfodiad, profwyd bod Iesu wedi goresgyn marwolaeth (neu, mewn geiriau eraill, does gan farwolaeth ddim grym drosto). Yn awr, felly, am fod yr Iesu’n fyw, gallwn ni fyw hefyd. Mae ei fywyd ef ynom ni yn rhoi bywyd i ni. Hefyd, am iddo gael ei atgyfodi, mae’n fyw heddiw.
Ioan 5:24 | “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych fod y sawl sy’n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu’r hwn a’m hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw’n dod dan gondemniad; i’r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd. |
Ioan 10:9 | Myfi yw’r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw’n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa. |
Ioan 14:6 | Dywedodd Iesu wrtho “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi. |
Ioan 8:24 | Dyma pam y dywedais wrthych y byddwch farw yn eich pechodau; oherwydd marw yn eich pechodau a wnewch, os na chredwch mai myfi yw.” |
Actau 4:12 | Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” |
Rhuf. 10:13 | Oherwydd “bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” |
Rhuf. 10:11 | Y mae’r Ysgrythur yn dweud, “Pob un sy’n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.” |
Rhuf. 2:11 | Nid oes ffafriaeth gerbron Duw. |
Rhuf. 3:22 | Ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy’n credu. Ie, pawb yn ddiwahaniaeth; |
Rhuf. 10:9 | os cyffesi Iesu yn Arglwydd â’th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub. |
Sut all ein pechodau gael eu dileu ac y gallwn dderbyn y bywyd newydd hwn? Drwy gredu yn yr Iesu fel ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Os byddwn yn edifarhau am ein hymddygiad pechadurus ac yn galw ar Iesu i faddau i ni a’n hachub ni, fe fydd Ef yn gwneud hynny. Mab Duw yw Iesu, a ddaeth i’r byd i farw dros ein pechodau. Bydd unrhyw un ar y ddaear sy’n ymddiried ynddo Ef yn derbyn maddeuant Duw, yn cael eu hachub o’u pechodau (ac uffern) ac yn derbyn bywyd newydd gan Dduw. Nid yw Duw’n dangos unrhyw ffafriaeth. Nid effeithir arno gan – y wlad lle rydym yn byw, yr iaith a siaredir gennym, boed yn gyfoethog neu dlawd, yn wryw neu fenyw, ieuanc neu hen, neu unrhyw wahaniaethau ffisegol eraill. Bydd pawb sy’n credu ac yn cyffesu’r Iesu’n cael eu hachub. Mae’r canlynol yn weddi y gallech ei gweddïo os byddwch yn penderfynu dilyn Iesu:
Dduw yn y nef, diolch i Ti am anfon Dy unig Fab, Iesu, i farw dros fy mhechodau fel y gallaf gael fy achub a chael bywyd newydd o’r nef. Rwy’n edifarhau am fy ffyrdd ac yn gofyn am faddeuant am fy mhechodau. Rwy’n credu yn yr Iesu ac yn derbyn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr. Rho gymorth ac arweiniad i mi i fyw bywyd sy’n Dy fodloni Di yn y bywyd newydd hwn a roddaist i mi. Amen
Os ydych chi wedi gweddïo’r weddi uchod, gofynnwch i Dduw ddangos eglwys i chi fynd iddi. Siaradwch â Duw mewn gweddi’n rheolaidd a bydd Duw yn siarad â chi. Gwrandewch ar lais Duw. Bydd Duw yn eich arwain. Mae’n eich caru a bydd yn gofalu amdanoch. Gallwch ymddiried ynddo Ef. Nid yw byth yn siomi’r rhai sy’n ymddiried ynddo Ef. Mae Duw yn Dduw da. Gellir ymddiried ynddo. Gallwch ymddiried eich bywyd i’w ddwylo Ef. Deuwch a’ch anghenion ger ei fron Ef. Mae’n malio amdanoch a bydd yn eich bendithio. Dywedodd Duw, ‘Wnaf i byth eich gadael na chefnu arnoch’. Ymddiriedwch yn Nuw. Derbyniwch fendith drwy’r Iesu.
Darllenwch y beibl yn rheolaidd, gan ddechrau yn llyfr Ioan. I gael mwy o ffynonellau ar y rhyngrwyd, cliciwch yma.